O leiaf 23 wedi marw yn dilyn llifogydd yn Kentucky

Mae o leiaf 23 wedi marw, gan gynnwys 6 o blant, yn dilyn llifogydd yn Kentucky yn yr UDA.
Mae glaw trwm wedi difrodi'r ardal, gyda llywodraethwr y dalaith, Andy Beshear, yn datgan argyfwng mewn chwe sir.
Mae perchnogion tai oedd yn gaeth yn eu heiddo wedi cael eu gorfodi i nofio i ddiogelwch gydag eraill yn cael eu hachub gan gwch.
Dywedodd Mr Beshear bod y dalaith yn "profi un o'r llifogydd gwaethaf a mwyaf dinistriol yn hanes Kentucky.
"Bydd cannoedd yn colli eu tai."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit