Newyddion S4C

Gemau’r Gymanwlad 2022: Medalau Cymru hyd yma

08/08/2022
Y Cymry yn y Gemau / Gemau'r Gymanwlad / Birmingham 2022

Parhau mae llwyddiant Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Fe enillodd Joshua Stacey chweched medal aur i Gymru yng nghystadleuaeth y para-tenis bwrdd fore dydd Sul.

Daeth seithfed aur i Gymru i Rosie Eccles yn y bocsio ddydd Sul.

Enillodd Ioan Croft wythfed aur i Gymru nos Sul.

Daeth arian i Taylor Bevan yn y bocsio hefyd.

Hyd yma, mae gan Gymru 28 medal - wyth aur, chwech arian a 14 efydd.

Ar hyn o bryd, maen nhw'n 8fed safle sef un safle yn is na gemau 2018 pan orffennodd Cymru yn seithfed yn y tabl medalau. 

Aur

Seiclo Tandem B Sbrint - James Ball a Matthew Rotherham

Bowls Bowlio lawnt - Daniel Salmon a Jarrad Breen

Athletau 100m T37/38- Olivia Breen

Athletau Taflu disgen F42-44/61-64 i ddynion -  Aled Sion Davies

Gymnasteg  Gymnasteg rhythmig - Gemma Frizelle

Para-tenis bwrdd - Joshua Stacey

Bocsio - Rosie Eccles, Ioan Croft

Arian

Seiclo Tandem B 1000m TT i ddynion - James Ball a Matt Rotherham

Triathlon Ras gyfnewid gymysg - Iestyn Harrett, Olivia Mathias, Dominic Coy a Non Stanford

Jiwdo Categori 78kg menywod- Natalie Powell

Sboncen dynion- Joel Makin

Bowls Bowlio lawnt- Gordon Llewellyn a Julie Thomas

Bociso - Taylor Bevan

Efydd

Seiclo Sprint tîm i fenywod - Rhian Edmunds, Emma Finucane a Lowri Thomas

Seiclo Sprint i fenywod - Emma Finucane

Seiclo Ras Bwyntiau 25km - Eluned King

Seiclo Ras Grafu 15km- William Roberts

Nofio Nofio dull cefn menywod categori S*- Lily Rice

Nofio Nofio dull cefn menywod 100m- Medi Harris

Bowls Tîm treblau'r dynion - Owain Dando, Ross Owen a Jonathan Tomlinson

Jiwdo Categori 63kg menywod- Jasmine Hacker-Jones

Seiclo Ras yn erbyn y cloc i ddynion- Geraint Thomas

Athletau Taflu disgen F42-44/61-64 i ddynion - Harrison Walsh

Bocsio  - Jake Dodd, Owain Harris-Allan, Garan Croft.

Tennis Bwrdd- parau merchedAnna Hursey a Charlotte Carey

Bydd y cystadlu yn parhau ddydd Sul a dydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.