Newyddion S4C

Cefnogwyr clybiau pêl-droed Cymru'n gobeithio am dymor llwyddiannus

30/07/2022
Matt Grimes Elyrch

Wrth i gynghreiriau Lloegr ail-gychwyn ar gyfer y tymor newydd bydd gan nifer o glybiau pêl-droed Cymru obeithion mawr eleni.

Bydd Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd yn chwarae eu gemau cyntaf yn y Bencampwriaeth a'r Ail Adran ddydd Sadwrn, gyda Wrecsam yn cychwyn ar 6 Awst, ac mae eu cefnogwyr yn obeithiol gall y tymor hwn fod yn un i'w gofio. 

Yr Elyrch yn hedfan i'r gemau ail-gyfle?

Cafodd Abertawe dymor anghyson y llynedd. Penododd y clwb Russell Martin fel hyfforddwr chwe niwrnod cyn dechrau'r tymor, a gorffennodd yr Elyrch yn bymthegfed yn y gynghrair.

Eleni, mae cefnogwr yr Elyrch, Tomos Jones, yn hyderus y gall ei glwb gyrraedd safle'r gemau ail-gyfle.

"Mae Martin wedi arwyddo'r chwaraewyr mae ef eisiau eleni, ac mae'r garfan yn siwtio'r ffordd i ni eisiau chwarae, felly cyrraedd y gemau ail-gyfle yw'r uchelgais.

"Mae ein ffordd o chwarae ond yn gwella wrth i Martin dreulio mwy o amser yma, a fi'n credu dyma'r flwyddyn lle bydd popeth yn dechrau cwympo mewn i le."

Sgoriodd Joël Piroe a Michael Obafemi 36 gôl rhyngddynt y llynedd, sef 62% o holl goliau'r Elyrch. Mae Tomos yn credu y bydd y bartneriaeth rhwng y ddau ymosodwr yn allweddol i lwyddiant y tîm.

"Bydd Piroe ac Obafemi yn bwysig iawn. Mae'r bartneriaeth na mynd i fod yn hanfodol a bydd potensial am lot o goliau trwyddynt."

Cyfnod ail-adeiladu i'r Adar Gleision

Nid oedd cefnogwyr Caerdydd yn hapus gyda'r ffordd y chwaraeodd eu tîm y llynedd wrth iddynt orffen yn y deunawfed safle gan osgoi cwympo i Adran Un. 

Ond mae Sean Morison wedi cryfhau ei garfan yn sylweddol dros yr haf trwy arwyddo 12 chwaraewr newydd, ac mae cefnogwr brwd y clwb Josh McConkey yn credu mai dyma'r flwyddyn i ail-adeiladu'r clwb.

"Mae'n wych gweld yr holl waith mae Morison wedi rhoi mewn dros yr haf. Dwi'n gobeithio bydd y clwb yn gallu cyflwyno'r chwaraewyr i'n steil o chwarae yn araf bach a dechrau codi safleoedd yn y gynghrair.

"Trwy arwyddo chwaraewyr ifanc fel Ollie Tanner a rhai profiadol fel Sheyi Ojo, fi'n credu gallen ni orffen y tymor tua mid-table ac adeiladu at dymor nesaf."

Bydd chwaraewyr ifanc fel Rubin Colwill a Mark Harris yn gobeithio gallu sicrhau eu lle yn y tîm cyntaf eleni, ac mae'n siŵr bydd ennill eu lle yng ngharfan Cymru i Qatar yng nghefn eu meddyliau hefyd.

Cyfnod cyffrous i Gasnewydd

Yn dilyn ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw bydd James Rowberry yn weddol hapus gyda'i garfan hyd at hyn. Gorffennodd Casnewydd yng nghanol y gynghrair, a hynny wedi cyfnod o frwydro am eu lle yn y gemau ail-gyfle.

Er iddynt golli eu prif sgoriwr, Dom Telford, mae'r clwb wedi arwyddo chwaraewyr â phrofiad dros yr haf.

"Yn amlwg roedd colli Telford yn siom enfawr, ond mae rhaid i ni ffocysu ar y tymor i ddod a dwi'n meddwl bod y garfan eleni yn un cryf," meddai eu cefnogwr, Matthäus Bridge.

"Mae pawb yn bositif ac yn gyffrous am y tymor newydd, a dwi'n meddwl bod ni'n ddigon cryf i gyrraedd y gemau ail-gyfle."

Yn y ddwy allan o'r pedair blynedd ddiwethaf, mae Casnewydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ond wedi colli'r ddwy yn Wembley.

Mae Matthäus yn meddwl y bydd y profiad a chael chwaraewyr ifanc yn gymorth i'r garfan eleni.

"Mae'r chwaraewyr ifanc yn chwarae heb ofn, a dyna sydd angen ar adegau. Ond mae chwaraewyr profiadol fel partneriaeth Dolan a Demetriou yn yr amddiffyn yn hollbwysig i gadw trefn ar bethau."

Blwyddyn fythgofiadwy ar y gweill i Wrecsam?

Ar ôl colli i Grimsby yn y gemau ail-gyfle y llynedd, roedd tymor Wrecsam wedi dod i ben yn gynt na'r hyn yr oedd eu cefnogwyr yn ei ddisgwyl a'i obeithio.

Ond, mae Ioan Huws yn dweud ei fod yn siarad ar ran pob cefnogwr Wrecsam wrth gredu bod mwy o gyffro i ddod y tymor hwn nag y llynedd.

"Mae eleni yn flwyddyn llawn cyffro i'r clwb, mae'n addawol iawn. Rydym wedi rhoi siomedigaeth llynedd tu ôl i ni ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod."

Mae Wrecsam wedi arwyddo pedwar chwaraewr newydd, gan gynnwys Elliot Lee o Luton yn y Bencampwriaeth, ac mae Ioan yn meddwl dylai Wrecsam anelu am y brig.

"Wedi ni arwyddo pedwar chwaraewr o safon, yn sicr dylem anelu i ennill y gynghrair eleni a sicrhau ein lle yn Adran Dau o'r diwedd.

"Dwi wir yn meddwl mai dyma ddechreuad cyfnod oes aur Wrecsam."

Fe fydd y JD Cymru Premier yn cychwyn ar 12 Awst pan fydd Airbus yn chwarae yn erbyn Aberystwyth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.