
Galw ar bobl i ddefnyddio llai o ddŵr o achos prinder glaw

Galw ar bobl i ddefnyddio llai o ddŵr o achos prinder glaw
Fe ddylai pobl ddefnyddio cyn lleied o ddŵr ag sy'n bosib oherwydd prinder glaw – dyna'r cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn cyfnod sychach na'r arfer.
Er nad ydy'r Asiantaeth yn dweud ei bod hi'n argyfwng, maen nhw wedi dweud wrth Newyddion S4C fod y sefyllfa'n mynd yn fwy "dyrys" ac y dylai pobl geisio arbed dŵr ymhob ran o Gymru.
Mae olion sychder wedi bod yn amlwg mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Bro Hiraethog lle mae Llyn Aled Isaf wedi crebachu'n sylweddol a glannau'r llyn bellach yn llydan iawn.
Mae hi hefyd yn achosi problemau i ffermwyr. Mae gan Iwan Jones fferm laeth organig yn y Groes ger Dinbych, ac oherwydd nad ydy'r borfa'n tyfu, mae'n gorfod rhoi bwyd y gaeaf i'w wartheg yng nghanol yr haf.
"Prinder glaw sy’ ’di bod y broblem fwya ac oherwydd hynny diffyg tyfiant y borfa. Mae ’di golygu yma bod ni'n bwydo rhywfaint o fwyd oeddan ni wedi gynaefu ar gyfer y gaea ers rhyw dair wythnos yma rwan ... mae hwnnw yn mynd yn llai bob dydd ac mi fyddwn ni'n debygol iawn o barhau i fwydo fo am gyfnod go helaeth rwan gan obeithio y bydd y borfa'n ailddechrau tyfu."
Mae'n dweud nad ydy'r gwartheg yn cynhyrchu cymaint o laeth o fod ar y silwair - ryw 10% yn llai - ac mae'r dwysfwyd wedi mynd yn ddrytach.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n ymwybodol o'r anawsterau gan fod na'n amlwg brinder glaw.
"Be di ni di weld dros y pedair wythnos i fis diwetha dan ni ond wedi cael chydig dros 60% y cant o'r glaw sy'n arferol ar draws Cymru a hynny'n cyd-fynd a'r tywydd poeth gawson ni yn ystod yr wythnosa diwetha," meddai'r rheolwr prosiect Iwan Williams.
"Dan ni di gweld bod lefel yr afonydd a'r llynnoedd yn disgyn ac oherwydd hynny mae'r effaith amgylcheddol, effaith ar amaethyddiaeth, defnydd tir ac wrth gwrs adnoddau dwr yn dod yn broblem."
"Y cyngor ar hyn o bryd ydy bod yn wyliadwrus, defnyddio cyn lleied o ddwr a sy'n bosib, os dach chi'n gweld unrhyw achos lle mae na effaith amgylcheddol i gysylltu a ni a gadael i ni wybod fel bod ni'n gallu monitro a chydweithio efo cyrff eraill i gymryd unrhyw gamau sy'n bosib."
Ar fferm Groes Bach mae Iwan Jones eisoes yn ystyried sut i ddygymod os bydd glaw'n brin dros y blynyddoedd nesa.
"Mae'r math o borfa dan ni'n ei dyfu, hwyrach bod rhaid edrych ar fathau sy'n gwreiddio'n ddyfnach a wedyn yn gallu cyrraedd mwy o ddwr yn ddyfnach yn y ddaear, mae hwnnw'n un enghraifft ar y ffarm yma, hwyrach fydd rhaid cadw llai o stoc, fel pan fyddwn ni'n cael cyfnodau sych ein bod ni'n gallu dygymod yn well."