Nifer y bobl gyda Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng
Mae'r ganran o bobl sydd yn profi'n bositif am Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng, yn dilyn wythnosau lle'r oedd achosion ar gynnydd.
Yn ôl ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth tua 156,000 o bobl brofi'n bositif am coronafeirws yn ystod yr wythnos oedd yn gorffen ar 20 Gorffennaf.
Roedd hyn yn un ymhob 19 aelod o'r boblogaeth.
Yr wythnos flaenorol, fe wnaeth 183,200 o bobl brofi'n bositif, sef un ymhob 17 o'r boblogaeth.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod y data diweddaraf yn awgrymu bod y DU wedi cyrraedd brig y don ddiweddar o achosion Covid-19.
Fe wnaeth y cynnydd diweddar arwain at holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn ail-gyflwyno mesurau Covid-19 mewn ysbytai.