Rebekah Vardy yn colli achos difenwi 'Wagatha Christie'

Mae Rebekah Vardy wedi colli ei hachos difenwi yn erbyn Coleen Rooney, gan ddod a saga 'Wagatha Christie' i ben.
Fe wnaeth Vardy gymryd camau cyfreithiol ar ôl i Rooney ei chyhuddo o rannu straeon amdani yn y wasg.
Yn dilyn y cyhuddiad ar gyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth Vardy, sydd yn briod i'r peldroediwr Jamie Vardy, wadu'r honiadau yn ei herbyn.
Dywedodd Rebekah Vardy fod y cyhuddiadau yn ei herbyn wedi arwain at gam-driniaeth sylweddol ar-lein, gan achosi "gofid sylweddol" a niwed i'w henw da.
Darllenwch fwy yma.
Llun: WikiCommons