Cystadlu yn dechrau yng Ngemau'r Gymanwlad
Cystadlu yn dechrau yng Ngemau'r Gymanwlad
Bydd y cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn dechrau ddydd Gwener.
Mae'r Gemau yn cael eu cynnal yn Birmingham eleni, y tro cyntaf i'r ddinas fod yn gartref iddynt.
Fe fydd athletwyr Cymru yn gobeithio mynd hyd yn oed ymhellach eleni wedi iddyn nhw orffen yn seithfed ar y tabl medalau yng Ngemau'r Arfordir Aur yn 2018.
Anwen Butten y chwaraewr Bowls Lawnt yw capten Tîm Cymru ar gyfer y gemau eleni.
Geraint Thomas (beicio) a Tesni Evans (sboncen) a wnaeth gario baner Cymru yn y seremoni agoriadol nos Iau - y tro cyntaf i wledydd gael dau athletwr i'w cynrychioli ar ddechrau'r gemau.
Fe fydd 201 o athletwyr yn cynrychioli Cymru eleni, 101 yn fenywod a 99 yn ddynion.
Bydd y tîm yn cystadlu ar draws 15 o chwaraeon gwahanol sef athletau, seiclo, nofio, codi pwysau, gymnasteg, bocsio, jwdo, pêl-rwyd, rygbi saith pob ochr, hoci, sboncen, bowls lawnt, tenis fwrdd, triathlon a reslo.
Pwy o Gymru sy’n cystadlu ddydd Gwener?
Ymysg y rhai fydd yn cystadlu ddydd Gwener mae Laura Daniels, Owain Dando, Ross Owen, Jon Tomlison ac Anwen Butten yng nghystadlaethau'r bowliau lawnt.
Bydd y gymnastwyr Emil Barber, Brinn Bevan, Joseph Cemlyn-Jones, Joshua Cook a Jacob Edwards yn cystadlu.
Anna Hursey a Chloe Thomas Wu Zhang fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y tenis fwrdd.
Ymysg y seiclwyr bydd yn cystadlu mae Nia Holt, Megan Barker, Lowri Thomas, Rhys Britton a Harvey McNaughton.
Bydd y nofwyr Kieran Bird, Daniel Jervis, Thomas Carswell, Kyle Booth, Harriet Jones, Medi Harris ac eraill yn cystadlu ddydd Gwener hefyd.
Bydd cystadlaethau'r bocsio hefyd yn cymryd lle gyda Garan a Ioan Croft, Rosie Eccles, Zoe Andrews a Taylor Bevan yn cymryd rhan yn eu gornestau cyntaf.
Tesni Evans, Emily Whitlock, Peter Creed, Emyr Evans a Joel Makin fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y Sboncen.
Bydd chwaraeon tîm hefyd yn digwydd ddydd Gwener, gyda thimau pêl-rwyd, triathlon, hoci, rygbi saith pob ochr Cymru yn cystadlu yn ystod y dydd.
Mae'r Gemau'n cael eu cynnal bob pedair blynedd a hon fydd y tro cyntaf i Farbados gystadlu ers iddyn nhw ddod yn weriniaeth yn 2021.
Bydd y campau'n cael eu cynnal mewn 15 o leoliadau ar draws Canolbarth Gorllewinol Lloegr.