Teyrngedau i ddwy fam fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddwy fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caerffili ar 19 Gorffennaf.
Bu farw Denise Hughes, 79, a Justine Hughes, 30, yn y fan a'r lle ger y chwarel lechi ar Heol Fochriw.
Mae eu teulu wedi eu disgrifio fel menywod “hyfryd a caredig”.
Dywedodd y teulu: “Cafodd Denise ei chymryd oddi wrthym yn drasig. Gwraig, mam, nain, a hen nain hyfryd oedd yn cael eu caru gan bawb. Roedd hi bob amser yn barod i helpu unrhyw un. Hi oedd pennaeth y teulu.
“Ni all geiriau fynegi’r boen rydyn ni’n ei deimlo.
“Roedd Justine yn ferch ifanc, hapus ac mae ei bywyd wedi cael ei thorri yn drasig o fyr.
“Mam, chwaer, merch, wyres, a nith gariadus a roddodd gymaint o gariad.
“Yn fam i Megan a Rowan, byddan nhw’n tyfu fyny yn gwybod pa mor garedig, hapus a chariadus oedd eu mam. Ni chaniateir iddynt fyth anghofio."
Dywed Heddlu Gwent fod y teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.