Ymwelydd o Loegr yn honni iddi gael profiad 'anghyfeillgar' yn y gogledd

Mae ymwelydd â'r gogledd wedi dweud ei bod wedi cael profiad "anghyfeillgar" am ei bod hi o Loegr.
Dywedodd y ddynes fod y safle gwersylla a'i berchnogion yn "neis" ond nad oedd hynny'n wir am siopau a bwytai lleol.
Ar ôl dau ddiwrnod ar y safle ym Mhwllheli, Gwynedd, dywedodd ei bod yn ystyried symud i safle arall yn sgil yr ymteb iddi.
Ychwanegodd nad oedd wedi profi'r fath elyniaeth mewn 20 mlynedd o ymweld â Chymru.
Mewn ymateb ar gyfryngau cymdeithasol fe ddadleuodd sawl un fod ei hagwedd yn dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o'r ardal, ei hanes a'i diwylliant.
Darllenwch fwy yma.