Yr actor Bernard Cribbins wedi marw'n 93 oed

28/07/2022
Bernard Cribbins _ Doctor Who

Mae'r actor Bernard Cribbins wedi marw'n 93 oed.

Yn berfformiwr poblogaidd ar deledu ac mewn ffilmiau, roedd hefyd yn llais i gyfres boblogaidd The Wombles.

Roedd yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd am ddegawdau, gan ymddangos yn 'The Railway Children', ffilmiau 'Carry On' a 'Coronation Street'.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd ei asiant fod ei yrfa wedi bod yn un lewyrchus dros saith degawd.

"Fe weithiodd yn bell i'w 90au gan ymddangos yn ddiweddar ar Doctor Who a chyfres CBeebies, Old Jack’s Boat.

"Fe gollodd ei wraig wedi 66 mlynedd o briodas y llynedd,

"Roedd ei gyfraniad i adloniant Prydeinig yn sylweddol. Roedd yn unigryw, gan ymgorffori'r gorau o'i genhedlaeth, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl gan bawb gafodd y pleser o'i adnabod a gweithio gydag o."

Llun: Doctor Who/BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.