Teyrngedau i ddyn 19 oed o Fangor fu farw mewn damwain beic

Mae teyrngedau wedi eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol i ddyn ifanc o Fangor fu farw mewn damwain beic.
Roedd Reece Thomas Thompson yn dad i blentyn ifanc ac yn gyn-chwaraewr pêl-droed i dimau ieuenctid Llandudno, Caernarfon a Bethesda.
Dywedodd ei dad ei fod yn fab "cariadus ac anhunanol".
Dywedodd Clwb Pêl-droed Llandudno eu bod wedi eu dryllio gan y newyddion am ei farwolaeth a'u bod yn cydymdeimlo gyda'i deulu.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Clwb Pêl-droed Llandudno