Achos Peter Mandelson: Yr heddlu yn chwilio dau gyfeiriad
Mae'r heddlu yn chwilio mewn dau gyfeiriad, yn Swydd Wiltshire a Llundain, fel rhan o'r ymchwiliad i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus gan Peter Mandelson.
Fe gyhoeddodd Peter Mandelson ei fod wedi penderfynu gadael Tŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher.
Roedd y pwysau'n cynyddu ar Mandelson yn sgil gwybodaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Mae honiadau fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra roedd e'n weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddydd Gwener diwethaf.
Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Hayley Sewart o Heddlu'r Met ddydd Gwener: "Gallaf gadarnhau fod swyddogion o dîm Troseddau Arbenigol Canolog y Met yn y broses o gynnal gwarantau chwilio mewn dau gyfeiriad, un yn ardal Wiltshire, ac un arall yn ardal Camden.
"Mae'r chwilio yn gysylltiedig ag ymchwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i droseddau yn ymwneud â chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, sy’n ymwneud â dyn 72 oed.
"Nid yw wedi cael ei arestio ac mae ymholiadau yn parhau."
Y gred yw fod dau swyddog heddlu wedi cyrraedd y tu allan i gartref Peter Mandelson ger Parc Regent yng nghanol Llundain brynhawn Gwener.
Mae Syr Keir Starmer wedi ymddiheuro i ddioddefwyr Jeffrey Epstein, gan ddweud ei fod yn “ddrwg ganddo am gredu celwyddau (Peter) Mandelson" a’i benodi’n llysgennad Prydain i America, wrth iddo wynebu pwysau gwleidyddol cynyddol dros y sgandal.
Mynnodd y Prif Weinidog “nad oedd yr un ohonom yn gwybod dyfnder tywyllwch” perthynas Peter Mandelson â’r troseddwr rhyw pan gafodd ei ddewis ar gyfer y swydd.