Ffrae Peter Mandelson: Starmer ‘yn gandryll’ a gwas sifil yn gadael ei swydd

Keir Starmer

Bydd prif was sifil y Swyddfa Dramor yn gadael ei swydd ynghanol ffrae dros benodiad yr Arglwydd Mandelson yn Lysgennad y DU i’r Unol Daleithiau.

Daeth i’r amlwg fod Syr Keir Starmer a’r Ysgrifennydd Tramor, Yvette Cooper, wedi colli hyder yn ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Dramor, Syr Olly Robbins.

Yn ôl ffynonellau yn Downing Street, mae’r Prif Weinidog yn “gwbl gandryll” nad oedd wedi cael gwybod bod yr Arglwydd Mandelson wedi cael ei wrthod i ddechrau yn y gwiriadau diogelwch ar gyfer rôl Llysgennad y DU i’r Unol Daleithiau.

Roedd swyddogion diogelwch wedi gwrthod rhoi sêl bendith i’r Arglwydd Mandelson i ddechrau.

Ond fe benderfynodd swyddogion y Swyddfa Dramor gymryd y cam anarferol o fynd yn groes i’r argymhelliad hwnnw.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud nad oedd y Prif Weinidog yn gwybod am hynny tan yn gynharach yr wythnos hon.

Mae’n hysbys hefyd nad oedd David Lammy, a oedd yn ysgrifennydd tramor pan gafodd yr Arglwydd Mandelson ei benodi, yn gwybod tan brynhawn dydd Iau.

Dywedodd y Swyddfa Dramor yn gynharach ei bod yn “gweithio ar frys” i gydymffurfio â chais am wybodaeth gan y Prif Weinidog.

Image
Olly Robbins
Syr Olly Robbins, ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Dramor

Datgelodd adroddiad yn y Guardian fod swyddogion diogelwch wedi gwrthod rhoi cliriad i’r Arglwydd Mandelson i ddechrau, ond bod y Swyddfa Dramor wedi anwybyddu’r argymhelliad.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Llywodraeth wedyn mai “swyddogion y Swyddfa Dramor” oedd wedi penderfynu rhoi’r cliriad diogelwch uwch iddo, er gwaethaf yr argymhelliad. 

Fe gafodd yr Arglwydd Mandelson ei ddiswyddo o'i rôl yn Washington fis Medi diwethaf pan ddaeth mwy o fanylion i'r amlwg am ei berthynas â'r pedoffeil Jeffrey Epstein, a fu farw yn 2019.

Ymateb

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, ei bod yn “hurt” honni nad oedd Syr Keir yn gwybod fod yr Arglwydd Mandelson wedi cael ei wrthod yn y broses glirio.

Dywedodd hi: “Os nad yw’r Prif Weinidog yn gwybod beth sy’n digwydd yn ei swyddfa ei hun, ni ddylai fod yn rhedeg y wlad. Dylai ymadael.”

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, y dylai Syr Keir fod wedi dweud wrth Senedd San Steffan “ar y cyfle cynharaf” beth oedd wedi digwydd yn hytrach nag “aros i’r cyfryngau orfodi’r gwir allan”.

Dywedodd Plaid Cymru mai'r "peth cywir i'r Prif Weinidog ei wneud ar hyn o bryd, er lles dioddefwyr Epstein a'r cyhoedd, ydi ymddiswyddo".

Mae’r Blaid Werdd a Reform UK hefyd wedi galw ar Syr Keir i ymddiswyddo. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.