Tŵr arbennig yng nghefn gwlad Sir Benfro i warchod ystlumod
Mae cynlluniau ar gyfer tŵr arbennig yng nghefn gwlad Sir Benfro i helpu i warchod rhywogaeth o ystlumod lleol sy’n prinhau wedi cael sêl bendith.
Mewn cais i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gofynnodd Jenny O’Neill o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent Weir am ganiatâd i godi’r tŵr nythu i ystlumod.
Fe fydd y tŵr pum metr o uchder, yn Llwyngoras, Felindre Farchog.
Dywedodd datganiad ategol y byddai’r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt yn unig, fel man gorffwys pwrpasol i ystlumod.
Ni fyddai’n cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall, a byddai mynediad ato’n cael ei reoli’n ofalus, gan fod tarfu ar ystlumod yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Yn y gorffennol, roedd nythfa ar gyfer ystlumod pedol lleiaf (lesser horseshoe bat) yn un o adeiladau’r fferm ar y safle ehangach.
Hon oedd yr unig nythfa famolaeth hysbys o’r math yma yng ngogledd Sir Benfro. Ond mae nifer yr ystlumod yno wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae ystlumod pedol mwyaf hefyd (greater horseshoe bat) wedi cael eu gweld ar y safle dros nifer o flynyddoedd.
Mae’n bosibl bod presenoldeb yr ystlumod pedol mwyaf wedi atal yr ystlumod pedol lleiaf rhag defnyddio adeiladau eraill ar y safle.
Bwriad y strwythur newydd yw cynnig man gorffwys ychwanegol gerllaw ar gyfer yr ystlumod pedol lleiaf.
Ychwanegwyd fod y strwythur yn rhan o brosiect ledled Cymru o’r enw Landscape for Lessers, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent Weir.
Nod y prosiect yw sicrhau dyfodol poblogaeth bwysig Cymru o ystlumod pedol lleiaf drwy wella safleoedd gwarchodedig presennol a chodi mannau gorffwys newydd mewn ardaloedd lle mae’r rhywogaeth dan fygythiad.
Mae cynllunwyr y parc wedi cymeradwyo’r cais, gydag amodau.
