Canser y prostad: 'Angen i ddynion fod yn ymwybodol o hanes iechyd eu teulu'

Canser y prostad: 'Angen i ddynion fod yn ymwybodol o hanes iechyd eu teulu'

Mae tad o Gaernarfon sy’n byw gyda chanser y prostad cam 4 yn annog dynion i fod yn ymwybodol o hanes iechyd eu teulu.

Cafodd Gwyndaf Jones, 61 oed, ddiagnosis o ganser y prostad nad oes modd gwella ohono yn ystod haf 2024 - flwyddyn ar ôl iddo ddechrau teimlo’n sâl.

Dywedodd y cyn-swyddog heddlu iddo droi at feddyg preifat am atebion ar ôl honni bod ei feddyg teulu yn y Gwasanaeth Iechyd wedi methu'r diagnosis, gyda’r oedi yn golygu bod y canser wedi lledu i’w lymffau.

Gan fod ei dad, Gareth Hughes, 84 oed, wedi cael diagnosis o ganser y prostad ac yn parhau i gael ei fonitro, mae Mr Jones yn credu y dylai ei feddyg teulu fod wedi bod yn ymwybodol o’i risg.

Yn ôl Prostate Cancer UK, os yw perthynas agos fel tad neu frawd wedi cael canser y prostad, mae’r risg i unigolyn ddatblygu’r clefyd yn fwy na dyblu.

Mae’r elusen yn dweud bod cyfraddau diagnosis o ganser y prostad cam 4 ar eu huchaf erioed yng Nghymru, gyda 689 o ddynion yn derbyn y diagnosis yn 2022.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad ydyn nhw’n rheoli meddygfa Mr Jones yn uniongyrchol, ac nad ydyn nhw am ddarparu ymateb.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai unrhyw un sydd â symptomau canser y prostad, neu sy’n poeni amdano, gysylltu gyda meddyg teulu.

‘Newid fy mywyd yn gyfan gwbl’

Doedd Mr Jones “erioed wedi bod yn sâl” cyn iddo gael diagnosis o ganser y prostad - newyddion y mae’n ei ddisgrifio fel “sioc fawr” i’w deulu

Er nad oes modd gwella, mae’n bosib rheoli'r canser gyda nifer o driniaethau gwahanol, gan gynnwys cemotherapi, radiotherapi a therapi hormonaidd.

“Mae’r triniaeth wedi effeithio fi mwy na’r salwch, dwi ‘di colli chwech disg yn fy nghefn, mae gen i lymphoedema drwg achos bod y lymph glands wedi cael eu heffeithio,” meddai.  “Dwi ‘di blino, cysgu lot yn dydd. Dim egni.” 

Ychwanegodd ei fod wedi rhoi 50 cilo o bwysau (tua wyth stôn) ymlaen dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Mae ‘di newid fy mywyd i’n gyfan gwbl,” meddai.

“Ond ‘sa ‘di cael ei bigo fyny’n fuan, ‘swn i ‘di cael surgery, tynnu’r prostad a ‘swn i’n oce ‘wan.”

Image
Gwyndaf a Marlene
Gwyndaf a'i wraig, Marlene

Mae Mr Jones yn dweud ei fod yn bryderus am lefel risg ei deulu.

“Mae gyno ni 10 o grandchildren, dwi’n poeni am heini,” meddai. 

“Ac mae’r mab yn 35 oed, natho ni dalu am dest preifat iddo fo - lwcus mi oedd o’n glir, ond mae o’n ddigon ifanc ar hyn o bryd.”

Dywedodd ei fab, Gerwyn Jones, ei fod yn bwriadu talu £50 y flwyddyn i gael ei brofi am y canser am weddill ei fywyd.

“Ar ôl gwbod bod Taid 'di cael o, mi oedd o'n sioc gwbod bo' Dad 'di cael o hefyd,” meddai.

“Mae o bach yn sgeri achos ti’n gwbod bod 'na chance da bod o’n rhedeg trwy’r teulu.”

Oes angen rhaglen sgrinio genedlaethol?

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU erbyn hyn, yn ôl ystadegau newydd a gafodd eu cyhoeddi gan Prostate Cancer UK ym mis Ionawr.

Yn ôl ffigyrau’r elusen, cafodd 64,425 o ddynion ddiagnosis yn 2022, o gymharu â 61,640 a gafodd ddiagnosis canser y fron, sef y canser a oedd yn arfer bod y mwyaf cyffredin.

Ond yn wahanol i ganser y fron, nid oes rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad.

Mae Prostate Cancer UK yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol sy’n defnyddio profion PSA, sef y profion gwaed ar gyfer canser y prostad.

Mae'r elusen hefyd yn ymchwilio i weld a fyddai'n fuddiol i gyfuno'r profion PSA gyda phrofion eraill fel sganiau MRI, gan nad yw profion PSA bob amser yn ddibynadwy.

Image
Gwyndaf Jones
Gwyndaf (canol) gyda'i fab Gerwyn (chwith) a'i fab yng nghyfraith Sion (dde)

Daw’r alwad gan yr elusen ar ôl i Bwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, ddweud na ddylai sgrinio ar gyfer canser y prostad fod ar gael ar gyfer mwyafrif llethol y dynion yn y DU.

Yn hytrach, nododd y pwyllgor y dylid sgrinio dynion rhwng 45 a 61 oed gyda newidiadau genetig BRCA1 a BRCA2, sef lefel risg uwch, bob dwy flynedd.

Yn ôl Mr Jones, dylai meddygon teulu wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r math yma o ganser ymhlith cleifion sydd gyda hanes o’r clefyd yn y teulu.

“Mae’r surgeries ‘ma fod i neud wbath amdano fo,” meddai.

“Maen nhw’n gwbod bod fy mam i wedi cael breast cancer, maen nhw’n gwybod bod fy nhad i yn cael ei fonitro am prostate cancer

“Maen nhw fod i ffeindio’r linc yna.”

Image
Teulu Gwyndaf Jones
Rhieni Gwyndaf, Gareth ac Audrey, gyda'i ferch hynaf Helen a'i wyresau

Ers derbyn ei ddiagnosis, mae Mr Jones wedi ymuno gyda Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru.

“Dwi’n nabod lot o bobl erill sy’ ‘di cael yr un treatment gan eu GPs nhw - cael eu ignorio mewn ffordd,” meddai.

“Mae ‘na angen national screening programme fel sy’ ‘na am canser y fron.”

Er mwyn helpu’r achos yn lleol, mae Mr Jones wedi codi arian i drefnu digwyddiad profi am ganser y prostad yng Nghaernarfon ar 11 Mehefin.

Yno bydd 120 o ddynion yn cael prawf PSA am ddim - ac mae’n gobeithio trefnu o leiaf tri digwyddiad arall mewn ardaloedd eraill yng Ngwynedd eleni.

“Os ti’n nabod rhywun efo wbath, ti’n fwy tebygol o neud wbath amdano fo,” meddai. 

“Felly dyna ‘da ni’n trio neud.”

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol bod Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn ystyried sgrinio canser y prostad wedi'i dargedu ar gyfer dynion gyda mwtiadau BRCA, a byddwn yn ystyried cyngor pe bai argymhelliad ffurfiol yn cael ei wneud yn dilyn yr ymgynghoriad. 

"Dylai unrhyw un sydd â symptomau - neu'n poeni am - canser y prostad siarad â'u meddyg teulu."

Dywedodd Llafur Cymru ei bod yn "wirioneddol bwysig ein bod yn dilyn y dystiolaeth" o ran rhaglenni sgrinio oherwydd mae "manteision a niwed yn gysylltiedig â sgrinio ar draws y boblogaeth", er mwyn sicrhau bod sgrinio yn "gwneud mwy o les nag o ddrwg".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddan nhw'n creu Cronfa Triniaethau Canser a Chronfa Clefydau Prin, a'u bod wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad.

Yn ôl Plaid Cymru, byddan nhw'n "blaenoriaethu atal canser, dal canserau yn gynharach, sicrhau tegwch wrth ddarparu gwasanaethau, a chryfhau rheolau ynghylch caniatâd cleifion" er mwyn cynnig gwell cefnogaeth i gleifion.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru eu bod yn "cefnogi cyflwyno sgrinio wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sydd â risg genetig uwch" ac yn annog Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i symud ymlaen gydag argymhellion clir "cyn gynted â phosib".

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymatebion gan y Blaid Werdd a Reform UK.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.