Cynghorydd o Wynedd yn cyfaddef i yfed a gyrru
Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi honni ei fod wedi ei dargedu gan yr heddlu wrth iddo gyfaddef i yfed a gyrru.
Mae John Pughe, 66 oed, o Dywyn, yn cynrychioli ward Morfa Tywyn ar Gyngor Gwynedd.
Fe newidiodd ei ble i euog wedi iddo yrru ei gar Mercedes yn y dref ar 19 Awst gyda 66 microgram o alcohol am bob 100 mililitr yn ei system.
Y lefel gyfreithiol yw 35 microgram.
Fe ddywedodd Pughe wrth Llys Ynadon Llandudno mai dim ond "dau swig" o botel fach o jin oedd wedi ei gael yn ei gar.
Dywedodd yr erlyniad fod yr heddlu wedi cael gwybod ei fod yn ei chael hi'n anodd symud ei gar am yn ôl.
Dywedodd y cynghorydd sir a thref fod y trafferthion gyrru wedi eu hachosi gan ffos.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis ac fe dderbyniodd ddirwy o £596 ac fe fydd yn rhaid iddo dalu gordal o £238 a chostau erlyn o £400.
Pan ofynnwyd iddo y tu allan i'r llys pe bai'n rhoi'r gorau i fod yn gynghorydd, fe ymatebodd drwy ddweud: "Dim sylw."