Reform UK yn ennill sedd ar Gyngor Môn wedi isetholiad Ynys Gybi
Mae plaid Reform UK wedi ennill eu sedd gyntaf ar Gyngor Sir Ynys Môn ar ôl i Celfyn Furlong ennill isetholiad Ynys Gybi ddydd Iau.
Fe lwyddodd yr ymgeisydd Reform i sicrhau 603 o bleidleisiau, sef 43.9% o'r bleidlais, o flaen Bethan Pari Jones o Blaid Cymru, a enillodd 343 o bleidleisiau (25%).
Daeth yr ymgeisydd Llafur, Mary Elizabeth Roberts yn drydydd (12.5%), o flaen Nick Bounds o’r Blaid Werdd (8.6%), Margaret John o’r Ceidwadwyr (8.2%) a’r ymgeisydd annibynnol, Robert Williams (1.9%).
Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth y cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE y llynedd.
Mewn neges yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd Mr Furlong fod y canlyniad yn dangos fod “pobl eisiau newid.”
Dywedodd: “Cyn unrhyw beth arall, hoffwn dalu teyrnged i’r diweddar Trefor Lloyd Hughes MBE. Dyn a roddodd flynyddoedd o wasanaeth i Ynys Gybi, Ynys Môn ac yn wir i Gymru. Cawr o ddyn na fydd byth yn cael ei anghofio.
“Heno rwy’n derbyn y sedd hon gyda pharch at ei etifeddiaeth ac pob peth a lwyddodd i wneud drost ei ardal.
“Rwy’n gwbl ostyngedig ac yn falch o gael fy ethol i gynrychioli Ynys Gybi. Diolch i bawb a roddodd eu hymddiriedaeth ynof, ac i bawb a ddaeth allan i bleidleisio drostai.
“Mae’r canlyniad hwn yn anfon neges glir. Mae pobl eisiau newid, ac mae pobl eisiau synnwyr cyffredin yn ôl mewn gwleidyddiaeth leol.”
Fe ychwanegodd: “Mae’r gwaith go iawn yn dechrau rwan.
“Byddaf yn gweithio’n galed bob dydd i sefyll dros Ynys Gybi ac Ynys Môn. Pleidleisiodd Ynys Gybi dros Reform. Fydd Ynys Gybi yn cael Reform.”
Llun: Reform UK

