Arestio pump fel rhan o ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth bachgen 17 oed ger Caerffili

ABERTRIDWR

Mae’r heddlu wedi arestio pump o bobl fel rhan o ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth bachgen 17 oed ger Caerffili.

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi mynd i eiddo yn Stryd Francis Isaf, Abertridwr tua 17.45 ddydd Iau 5 Chwefror ar ôl adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi dioddef anaf difrifol.

Roedd y bachgen 17 oed o Abertridwr wedi marw yn y fan a'r lle, medden nhw.

Cafodd tri dyn, dyn 26 oed o Lundain, dyn 24 oed o Abertridwr a dyn 18 oed o Gaerdydd, eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd dwy fenyw, menyw 28 oed o Henffordd a menyw 24 oed o Senghennydd, eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae pob un ohonynt wedi eu cadw yn y ddalfa wrth i ymholiadau barhau.

Mae teulu’r bachgen a fu farw yn Abertridwr wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, meddai Heddlu Gwent.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Prif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths y bydd trigolion yn gweld nifer cynyddol o swyddogion yn yr ardal tra bydd yr heddlu yn cynnal ymholiadau pellach.

"Mae'n bwysig nad yw pobl yn dyfalu ynghylch hunaniaeth y rhai sy'n gysylltiedig gan y gallai hyn greu problemau i'n hymchwiliad," meddai.

"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol." 

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol neu drwy'r ffurflen ar eu gwefan gan ddyfynnu cyfeirnod log 2600038325.

Gallwch hefyd ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.