Alaw Môn: Fferm solar ar dir ffermwr lleol yn cynnig 'sicrwydd' i'w deulu
Mae ffermwr o Fôn sydd yn ffermio ar dir a fydd yn rhan o fferm solar Alaw Môn ger Llannerch-y-medd yn dweud fod y cynllun "yn rhoi sicrwydd yng nghanol diwydiant amaeth sydd yn ansicr".
Mae Carwyn Thomas yn 38 oed ac yn ffermwr pedwaredd genhedlaeth ar fferm Chwaen Goch a fydd yn rhan o ardal ddatblygu fferm solar Alaw Môn.
Fe fydd y datblygiad yn gosod paneli solar dros 660 erw o dir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys.
Mae cwmni Enso Energy wedi dweud y bydd y parc yn pweru 33,935 o dai ac yn creu 160MW o ynni solar adnewyddadwy.
Mae'r cynllun yn un dadleuol, gyda thrigolion yn dadlau y bydd y datblygiad yn arwain at golli tir amaethyddol o safon, nifer isel iawn o swyddi yn cael eu creu a'r nifer cynyddol o ffermydd solar ar yr ynys.
Methodd cais gan Gyngor Môn, oedd yn gwrthwynebu'r cynllun, mewn adolygiad barnwrol ym mis Tachwedd y llynedd. Fe gadarnhaodd y cyngor fod cais arall yn Uchel Lys Wrecsam i atal y cynllun wedi methu ym mis Ionawr hefyd.
Mae Chwaen Goch yn fferm 500 erw o dir, ac fe fydd tua 20% o'r tir yma (tua 120 erw) yn rhan o ardal ddatblygu fferm solar Alaw Môn.
Wrth siarad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Carwyn Thomas: "O’n i jyst yn teimlo bod o’n rhoi mwy o opsiynau i ni fatha teulu ac unigolyn hefyd i jyst gael mwy o hedge fund i securio eich hun i’r dyfodol efo gymaint o ansicrwydd yn y diwydiant ffermio.
"Ma' pawb yn gorfod neud penderfyniadau eu hunain efo’r ffordd ymlaen, o’n i jyst yn teimlo bo’ hwn yn rhyw fath o sicrhau fod yna rywfaint yn dod fewn i’r dyfodol."
Nid yw'r tir yn rhan o Orchymyn Prynu Gorfodol (CPO), gan olygu mai rhentu'r tir fyddai'r datblygwyr, ac yn ôl Mr Thomas, fe fydd y tir ar fferm Chwaen Goch yn cael ei rentu am gyfnod o 30 mlynedd.
"Fyswn i yn dadlau bod yr 20% [o'r tir] yn rhoi balans i ni fatha teulu i fedru parhau i gynhyrchu bwyd ag i ffermio yn draddodiadol a bod y paneli ddim yn mynd i gymeryd drosodd y busnes i gyd ond bod o jyst yn rhoi rywfaint o sicrwydd i rywun," meddai.
"Y pwynt dwi’n neud ydi bod hwn yn guaranteed income am 30 mlynedd so mae o’n neud hi’n haws i gynllunio ymlaen mewn diwydiant sydd yn mynd yn anoddach ac yn anoddach i blanio mlaen."
Roedd teulu Mr Thomas yn arfer rhedeg busnes cig yn yr ardal, ond mae'n dweud fod rhentu canran o dir y fferm yn ysgwyddo'r baich ychydig.
"O'dd dad yn rhedeg busnes cig ag o’n i’n helpu fo am chwarter canrif ac ar un adeg oedd genna ni siop bwtchar, caffi a restaurant yn Biwmares a neud tua wyth o farchnadoedd ffermwyr y mis ym Manceinion a Lerpwl felly dwi’n gw'bod faint o waith caled ydi o i redeg busnes bach yn rwla fel Ynys Môn," meddai.
"Ma’ petha yn mynd yn anoddach ac anoddach a felly’r penderfyniad ‘dan ni wedi ei wneud ydi rhoi rywfaint o’r tir ‘ma i fyny i leihau y pwysau ar orfod wneud arian trwy ffyrdd mwy traddodiadol mewn industry fyswn i’n deud sydd yn mynd yn fwy ac yn fwy volatile ac unpredictable."
Ychwanegodd: "Fyswn i ddim isio rhoi i gyd o’r fferm i fewn yn amlwg, ond dwi’n teimlo bo’ ni yn bersonol wedi cael y balans yn iawn ond fedra i ddalld pam fod pobl sydd yn cael eu heffeithio genna fo yn mynd i gwyno hefyd."
'Cefnogi pobl leol'
Er ei fod yn cydnabod nad ydy prosiect Alaw Môn yn mynd i greu nifer o swyddi, fe ddywedodd Mr Thomas ei bod hi'n dal yn bosib i ddod ag arian i fewn i'r economi leol.
"Dwi’n dalld dydi prosiect fel ‘ma ddim yn mynd i greu toman o swyddi yn uniongyrchol ond y ddadl fyswn i’n neud ydi ma’ genna ni un melin wynt i fyny a ‘dan ni ‘di defnyddio’r pres rent yna i fuddsoddi yn y busnes, os dio’n adeiladwyr yn buildio lot o siedia, neu Mona Tractors i brynu tractors," meddai.
"Ma’r pres yna yn mynd i gwmnïau lleol sydd yn cefnogi pobl lleol. Hyd yn oed os dio ddim yn cyflogi pobl yn uniongyrchol, mae o’n dod â pres i fewn i’r economi fysa otherwise ddim yma. "
Mae fferm solar gyfagos arall o dan ystyriaeth ar hyn o bryd hefyd, sef Maen Hir.
Fe fyddai’r fferm hon yn dipyn mwy nag Alaw Môn, gan gynhyrchu dros 350MW, a’r bwriad gan gwmni Lightsource BP, sy'n gyfrifol am y cynllun, fyddai i godi paneli solar ar draws tri safle i gynnal ynni i dros 130,000 o gartrefi.
Llywodraeth y DU fydd yn penderfynu ar y cynllun hwn, a hynny oherwydd ei faint.
Roedd Mr Thomas yn cydnabod fod y sefyllfa gyda Maen Hir yn dra-gwahanol i un Alaw Môn.
"Mi fyswn i’n hypocrite os fyswn i’n deud bo fi’n erbyn o ond yn amlwg dwi’n derbyn bod o 5/6 gwaith maint Alaw Môn, a wedi hefyd sefydlu dros tri safle gwahanol so yn amlwg ma’r scheme yna yn mynd i gael mwy o effaith ar fwy o bobl na’r un yma," meddai.
'Unig ffordd'
Ychwanegodd Mr Thomas fod y targed o gyrraedd net sero erbyn 2035 a gafodd ei osod yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn golygu mai prosiectau fel fferm solar Alaw Môn ydy’r “unig ffordd iddyn nhw fedru gwireddu hynny mewn naw mlynedd."
Ychwanegodd: "Mae ‘na balans i’w gael ond mae Llafur a Plaid Cymru wedi comitio i net sero erbyn 2035 so fy marn i ydi bod ‘na ddim llawer o bwynt mynd yn erbyn prosiectau sydd yn mynd i gyflawni hynny."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein gweledigaeth yw i ddatgarboneiddio mewn ffordd sydd yn cynhyrchu buddion gwell na'r system egni sydd gennym ni heddiw drwy greu swyddi gwyrdd a thwf economaidd yn ein cymunedau.
"Mae gennym ni dargedau uchelgeisiol am egni adnewyddadwy sydd yn gofyn am gymysgedd amrywiol o fathau o gynhyrchu, ar y tir ac wrth wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru."
'Ffyrdd gwell'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae gan ynni solar rôl bwysig i’w chwarae, ond mae ffyrdd gwell, mwy arloesol a gwasgaredig o’i ddefnyddio na gorchuddio miloedd o erwau o dir fferm.
"Yn achos Alaw Môn, mae trigolion wedi gwneud eu gwrthwynebiad i’r datblygiad yn glir oherwydd ei effaith niweidiol ar ein tirweddau ac ar sectorau amaethyddol a thwristiaeth yr ynys, tra’n cynnig ychydig iawn yn ôl o ran swyddi neu fudd economaidd ehangach.
"Byddwn yn parhau i ddadlau yn erbyn datblygiadau solar diwydiannol ac echdynnol yn y system gynllunio, ac yn hytrach yn gwneud yr achos dros brosiectau ynni adnewyddadwy sy’n creu swyddi, yn cefnogi cymunedau ac yn amddiffyn ein hamgylchedd."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai Cymru "chwarae ei rhan wrth leihau allyriadau, ond y dylid gwneud hyn mewn ffordd ymarferol a chytbwys. Byddai gosod targed wedi ei gyflymu ar gyfer 2035 yn anochel yn rhoi pwysau ar benderfyniadau cynllunio ac yn peryglu gwthio datblygiadau ar dir fferm cynhyrchiol."
Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y Blaid Werdd yng Nghymru a Reform UK yng Nghymru am ymateb.

