Sir Benfro: Athro wedi’i ryddhau o’r ysbyty ar ôl ymosodiad honedig gan ddisgybl
Mae athro a gafodd ei anafu mewn ymosodiad honedig gan ddisgybl mewn ysgol yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, bellach wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty.
Cafodd bachgen 15 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio athro yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ddydd Iau.
Daeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed Powys nos Iau fod y bachgen yn parhau yn y ddalfa wrth i’w hymholiadau barhau.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol toc wedi 15.20 ddydd Iau yn dilyn adroddiad bod disgybl gydag arf wedi ymosod ar athro yno.
Fe gafodd yr athro ei gludo i’r ysbyty am driniaeth feddygol am ei anafiadau. Fe wnaeth y llu gadarnhau nad anafiadau trywanu oedd yr athro wedi eu dioddef.
Cafodd yr ysgol ei chloi i lawr am gyfnod yn dilyn y digwyddiad cyn cael ei hailagor.
Mae’r Cyngor wedi cadarnhau y bydd yr ysgol ar gau ddydd Gwener.
Mewn diweddariad nos Iau, dywedodd yr Uwch Arolygydd Chris Neve bod swyddogion wedi gadael yr ysgol.
“Hoffwn dawelu meddyliau rhieni a’r gymuned ehangach ein bod wedi gweithredu’n gyflym er mwyn diogelu disgyblion ac athrawon, ac i ddod o hyn i’r person dan amheuaeth mor fuan a phosib ar ôl derbyn yr adroddiad.
“Mae’r athro bellach wedi’i ryddhau o’r ysbyty ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. Roedd pob disgybl yn ddiogel ac wedi cyrraedd adref heb unrhyw niwed.
“Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ac yn parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau barhau.”
Fe ychwanegodd y byddai presenoldeb uwch o swyddogion yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn “cynnig sicrwydd i’r rhai sydd yn byw neu yn mynychu’r ysgol yn yr ardal.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Benfro, y Cynghorydd Jon Harvey: “Hoffwn ddiolch i staff a disgyblion yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am weithredu cynllun i gloi’r ysgol i lawr yn gyflym ac yn effeithiol, wrth ymateb i’r digwyddiad hwn.
“Er bod yr ysgol ar gau i ddisgyblion yfory (dydd Gwener), mae croeso i ddisgyblion sydd yn dymuno cefnogaeth ychwanegol i fynychu ac fe fydd cefnogaeth i staff sydd ar y safle.
“Hoffwn gynnig sicrwydd i ddysgwyr a rhieni’r ysgol, yn ogystal â’r gymuned ehangach, fod pob mesur i sicrhau diogelwch yn cael eu gweithredu.”
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynghori unrhyw unigolyn sydd yn dymuno derbyn cefnogaeth iechyd meddwl i ffonio 111 a gwasgu opsiwn 2. Mae cyngor a chefnogaeth gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn yr ardal ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

