'Croeso i Birmingham': Lenny Henry'n croesawu Cymry i Gemau'r Gymanwlad

'Croeso i Birmingham': Lenny Henry'n croesawu Cymry i Gemau'r Gymanwlad
Fe fydd Gemau'r Gymanwlad yn dechrau yn swyddogol nos Iau gyda'r seremoni agoriadol.
Mae'r Gemau yn cael eu cynnal yn Birmingham eleni, y tro cyntaf i'r ddinas fod yn gartref iddynt.
Ar drothwy'r Gemau fe ddywedodd y digrifwr Lenny Henry, sy'n dod o ardal Birmingham, wrth raglen Newyddion S4C y byddai croeso cynnes a digonedd o chwaraeon i unrhyw ymwelydd o Gymru dros y dyddiau nesaf.
Fe fydd athletwyr Cymru yn gobeithio mynd hyd yn oed ymhellach eleni wedi iddyn nhw orffen yn seithfed ar y tabl medalau yng Ngemau'r Arfordir Aur yn 2018.
Anwen Butten y chwaraewr Bowls Lawnt yw capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022.
Geraint Thomas (beicio) a Tesni Evans (sboncen) fydd yn cario baner Cymru eleni - y tro cyntaf i wledydd gael dau athletwr i'w cynrychioli yn y seremoni agoriadol.
Dywedodd Tesni Evans: “Dwi methu credu byddai'n chwifio'r faner i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae hyn yn fraint ac yn anrhydedd."
Fe fydd 201 o athletwyr yn cynrychioli Cymru eleni, 101 yn fenywod a 99 yn ddynion.
Bydd y tîm yn cystadlu ar draws 15 o chwaraeon gwahanol sef athletau, seiclo, nofio, codi pwysau, gymnasteg, bocsio, jwdo, pêl-rwyd, rygbi 7, hoci, sboncen, bowls lawnt, tenis fwrdd, triathlon a reslo.
Mae'r Gemau'n cael eu cynnal bob pedair blynedd a hon fydd y tro cyntaf i Barbados gystadlu ers iddyn nhw ddod yn weriniaeth yn 2021.
Bydd y campau'n cael eu cynnal mewn 15 o leoliadau ar draws Canolbarth Gorllewinol Lloegr.
Fe fydd y Seremoni Agoriadol yn dechrau am 19:30 yn Stadiwm Alexander, gyda Duran Duran ymhlith y sawl fydd yn perfformio.
Llun: Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022