Cyn-chwaraewr Cymru Ieuan Evans yn gadeirydd newydd Bwrdd y Llewod
27/07/2022
Mae cyn-chwaraewr Cymru a'r Llewod, Ieuan Evans, wedi ei gadarnhau fel Cadeirydd newydd Bwrdd Llewod Prydain ac Iwerddon.
Fe fydd yn dechrau yn y rôl ar 1 Hydref gan olynu Jason Leonard.
Mae'n cael ei ystyried fel un o'r chwaraewyr gorau erioed ar yr asgell i Gymru gan sgorio 33 o geisiadau dros ei wlad yn ystod ei yrfa ryngwladol o 11 mlynedd.
Cafodd Evans gydnabyddiaeth am ei yrfa lewyrchus pan dderbyniodd MBE am wasanaethau i rygbi yn 1996.
Dywedodd Evans ei bod hi'n "anrhydedd" wrth iddo gamu i'r rôl.
Llun: Y Llewod