AS Lafur wedi colli ei le ar y meinciau blaen am ymuno â streiciau trên

Mae Aelod Seneddol o'r Blaid Lafur wedi colli ei le ar y meinciau blaen am ymuno â'r streiciau rheilffyrdd ddydd Mercher.
Fe wnaeth Sam Tarry, AS De Ilford, ymuno â llinell piced tu fas i orsaf Euston yn Llundain fel rhan o'r gweithredu diwydiannol.
Dywedodd Mr Tarry fod y ffordd mae'r llywodraeth wedi trin gweithwyr trenau yn "afiach" wrth iddo ymgyrchu gydag aelodau'r undeb RMT.
Bellach mae wedi'i ddiswyddo fel gweinidog cysgodol dros drafnidiaeth gan y Blaid Lafur wedi i'r blaid rwystro aelodau o'r meinciau cefn rhag ymuno gyda'r streiciau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: WikiCommons