Teulu yn 'dorcalonnus' wrth fethu â dod o hyd i dŷ fforddiadwy yn eu hardal

Mae teulu sydd yn gorfod gadael eu cartref yn "dorcalonnus" ar ôl methu dod o hyd i dŷ fforddiadwy yn eu hardal.
Mae teulu Kathryn a Michael Wakeham wedi byw yn Tredelerch yng Nghaerdydd ers bron i ddegawd ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y gymuned leol.
Ond bellach maen nhw wedi derbyn gorchymyn Adran 21 i symud allan o'u cartref wedi i'w landlord benderfynu gwerthu'r tŷ.
Wrth ddechrau chwilio am gartref newydd, mae'r cwpwl wedi'i ddigalonni gan y farchnad dai leol ac yn wynebu digartrefedd.
Ar ôl talu £630 y mis am y degawd diwethaf, mae Kathryn a Michael yn dweud bod tai tebyg yn yr ardal bellach yn costio tua £1,200.
"Os nad oedd y farchnad dai mewn cymaint o lanastr, falle na fyddwn mewn cymaint o banig," meddai Michael.
"Chi'n edrych ar wefannau tai ac mae'r prisiau yn wallgof. Mae unrhyw beth allwn fforddio yn mynd o fewn 24 awr."
Darllenwch fwy yma.
Llun: ITV Cymru