Teyrnged i ddyn 'cariadus' fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrecynon
27/07/2022
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrecynon wedi ei ddisgrifio fel dyn "gofalgar a chariadus."
Bu farw David Jones, 75, mewn gwrthdrawiad ar Heol y Fynwent am tua 14:45 ddydd Llun.
Dywedodd ei deulu ei fod yn ddyn "gofalgar a chariadus oedd yn gwneud unrhyw beth i unrhyw un."
Roedd Mr Jones yn byw yn ardal Trecynon, ger Aberdâr am dros 50 mlynedd, ac roedd yn enw cyfarwydd yn ei gymuned.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200249004