Newyddion S4C

Heddlu Gweriniaeth Tsiec yn troi Ferrari troseddwr yn gar i swyddogion

Sky News 26/07/2022
Car Heddlu Ferrari

Mae'r heddlu yng Ngweriniaeth Tsiec wedi troi Ferrari troseddwr yn gar i'w swyddogion ei ddefnyddio.

Mae'r Ferrari 458 yn gallu cyrraedd cyflymder o 200mya, a bellach mae un yn cael ei ddefnyddio gan Adran Blismona'r Ffyrdd yn y wlad. 

Bydd y car hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddal troseddwyr yn y wlad sydd yn cynnal rasys stryd anghyfreithlon.

Roedd y car ymysg 900 o gerbydau gafodd eu hatafaelu gan yr heddlu yn y flwyddyn ddiwethaf, er nad oedd pob un mor werthfawr.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Heddlu Gweriniaeth Tsiec

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.