Niferoedd adar yn adfywio yng Nghymru yn ôl elusen
Mae llwyddiannau cadwraeth o adfer coetiroedd brodorol ac achub adar môr rhag llygod mawr wedi dod â “buddugoliaethau i natur” sy’n rhoi gobaith i’r byd naturiol, meddai’r elusen gadwraeth adar yr RSPB.
Dywedodd yr elusen bod ffawd rhywogaethau dan fygythiad wedi derbyn hwb yn ystod 2025.
Mae’r llwyddiannau mentrau cadwraeth ar hyd a lled Prydain yn dangos bod gobaith i fywyd gwyllt, meddai’r elusen.
Mae adar môr yn ffynnu ar Ynys Dewi oddi ar arfordir Sir Benfro ers difa llygod mawr yn 2000, gydag adar sy’n nythu mewn tyllau fel adar drycin Manaw.
Roedd rhain yn agored i niwed gan gnofilod yn ysglyfaethu ar eu hwyau a chywion ond bellach mae’r adar wedi elwa o ynys heb lygod mawr.
Mae’r adar drycin wedi gweld niferoedd yn cyrraedd 6,225 o barau bridio, i fyny o 900 cyn i’r ysglyfaethwyr gael eu difa.
Mae’r cynllun wedi darparu gwybodaeth a thechnegau ar gyfer prosiectau tebyg i gael gwared ar gnofilod ymledol o ynysoedd ledled y byd, meddai’r elusen.
Dywedodd prif weithredwr yr RSPB, Beccy Speight: “Mae’r RSPB wedi dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn cymryd camau cadwraeth beiddgar.
“Mae’r buddugoliaethau hyn i natur yn rhoi gobaith i fywyd gwyllt a’r byd naturiol yr ydym i gyd yn dibynnu arno.”
“Er bod natur yn parhau i fod dan fygythiad enfawr gan heriau fel newid hinsawdd, dwysáu amaethyddiaeth, colli cynefinoedd, datblygiad amhriodol a diffyg gweithredu gan y llywodraeth, rydym yn falch o’n rôl, ochr yn ochr â’n haelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr, wrth helpu i ddod â gobaith i natur am flynyddoedd lawer i ddod.”
Llun: RSPB
