Cymru Premier JD: Bae Colwyn yn gobeithio sicrhau eu lle yn y chwech uchaf

Sgorio
Cymru Premier JD

Fe fydd Bae Colwyn yn edrych i sicrhau eu lle yn y chwech uchaf wrth groesawu'r Fflint ar Ddydd Calan.

Bae Colwyn (5ed) v Y Fflint (11eg) | Dydd Iau – 12:30 (S4C)

Byddai buddugoliaeth i Fae Colwyn ar ddydd Calan yn ddigon i gadarnhau eu lle’n yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Mae’r Gwylanod yn anelu i fod y clwb cyntaf i gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad ers i Gaernarfon wneud hynny yn 2018/19.

Gemau tan yr hollt: 

Bae Colwyn: FFL (c), YSN (oc)

Y Fflint: BAE (oc), BALA (c)

Mae Bae Colwyn wedi ennill naw o’u 13 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, gan gamu i rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ac felly mae’r freuddwyd o gyrraedd Ewrop yn fyw ar Ffordd Llanelian.

Mae’r Fflint hefyd ymysg yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru, ond mae’r Sidanwyr yn stryffaglu’n y gynghrair eleni ac heb ennill mewn wyth gêm (cyfartal 4, colli 4).

Dyw’r Fflint wedi ennill unwaith oddi cartref yn y gynghrair yn unig y tymor yma, a daeth y fuddugoliaeth honno yn erbyn Llanelli ym mis Medi.

Record cynghrair diweddar: 

Bae Colwyn: ͏✅❌✅❌✅

Y Fflint: ❌➖➖➖❌

Llanelli (12fed) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Iau – 14:00

Dyw Llanelli dim ond wedi cipio un pwynt o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl sgorio dim ond 11 gôl mewn 20 gêm tydi pethau ddim yn argoeli’n dda i dîm Lee John.

Mae Llanelli’n sicr o orffen rhan gynta’r tymor ar waelod y tabl, ac ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o safleoedd y cwymp ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y gynghrair.

Gemau tan yr hollt: 

Llanelli: PEN (c), BARR (oc)

Pen-y-bont: LLI (oc), MET (c) ͏

Er bod Pen-y-bont wedi methu ag ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf, mae’r Gleision wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol.

Mae blaenwr Pen-y-bont, Chris Venables wedi derbyn cerdyn coch yn y saith munud agoriadol yn ei ddwy gêm ddiwethaf (vs Fflint a Llansawel), ac mae hynny’n amlwg wedi profi’n gostus i’r Gleision yn y gynghrair ac yng Nghwpan Cymru.

Tra bod un blaenwr yn rhwystredig, mae ‘na un arall sy’n disgleirio i dîm Rhys Griffiths, a James Crole yw hwnnw, gan i’r gŵr 21 oed sgorio 15 gôl yn ei 14 gêm ddiwethaf i Ben-y-bont.

Mae Pen-y-bont chwe phwynt o dan Cei Connah yn y ras am yr ail safle erbyn hyn, a cau’r bwlch fydd y nod i fechgyn Fryntirion am weddill y tymor i geisio cipio tocyn i Ewrop.

Record cynghrair diweddar: 

Llanelli: ❌➖❌❌❌
Pen-y-bont: ͏ ❌✅❌➖➖

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.