
Cynnydd yn nifer yr achosion o foddi yn ofid i fam a gollodd ei mab mewn rhaeadr

Mae’r nifer o bobl sydd wedi marw o ganlyniad i foddi damweiniol wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru.
Bu farw 26 o bobl yn 2021 ac mae’r ffigyrau diweddaraf gan Gronfa Ddata Digwyddiadau Dŵr (WAID) wedi arwain at ymgyrch arbennig i geisio haneru’r nifer o achosion o foddi erbyn 2026.
Un sy’n rhan o’r ymgyrch yw Debbie Turnbull. Yn 2006, fe wnaeth ei hunig blentyn, Christopher, farw ar ôl mynd i mewn i raeadr yng Nghapel Curig.
Yn 15 oed, fe ddioddefodd drawiad ar y galon o ganlyniad i sioc yn y dŵr oer.
Dywedodd wrth ITV Cymru: “Mae pob digwyddiad, popeth dwi’n clywed amdano, a phan mae’n lleol mae’n fy nharo i’n fwy oherwydd dwi’n teimlo nad ydw i wedi helpu addysgu’r person yna. Un diwrnod efallai mai chi fydd e, a dyna'r broblem. Mae'n rhy hwyr i mi."
Ers colli ei mab, mae Debbie wedi gweithio i ledaenu’r neges am ddiogelwch dŵr. Trwy ei helusen 'River and Sea Sense' mae miloedd o blant ysgol wedi cael eu haddysgu am beryglon nofio mewn dŵr agored.
Ychwanegodd: “Mae angen rhoi cymaint o arian i mewn i’r gwaith i addysgu pobl, mae mor syml â hynny.”

Roedd dydd Llun yn Ddiwrnod Atal Achub Boddi, ac mae mwy nag 50 mudiad wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o effaith a phŵer y dŵr.
Yn 2021, bu 277 o farwolaethau damweiniol yn ymwneud â dŵr yng Nghymru - cynnydd o 23 ers y flwyddyn cynt. Roedd 25 achos o foddi yn 2020.
Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru: “Mae’r ymgyrch #Parchu’r Dŵr wedi’i chynllunio i helpu i atal rhagor o farwolaethau.
“Gyda thywydd cynhesach yn taro sawl rhan o’r DU'r haf yma, hoffwn atgoffa’r cyhoedd, er y gall nofio dŵr agored ymddangos yn ffordd hwylus o gadw’n oer, gall fod yn beryglus iawn o hyd.
“Rydyn ni eisiau i bobl fwynhau’r tywydd cynnes, ond rydyn ni hefyd eisiau aros yn ddiogel a darparu gwybodaeth, fel eu bod nhw’n gwybod beth i’w wneud os bydd argyfwng.”