Newyddion S4C

Dyn 75 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrecynon

26/07/2022
Heol y Fynwent.png

Mae dyn 75 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrecynon ger Aberdâr. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol y Fynwent am tua 14:45 ddydd Llun.

Fe wnaeth cerbyd Ford gwyn a oedd yn cael ei yrru gan y dyn adael y ffordd a tharo postyn lamp. 

Bu farw'r dyn o'i anafiadau ac mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan swyddogion yr heddlu. 

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200249004.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.