Penodi Linda Tomos yn gadeirydd Cyngor Llyfrau
Mae Linda Tomos CBE wedi'i phenodi fel Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru.
Daw penodiad Ms Tomos, wedi cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Llun.
Mae Ms Tomos yn olynu’r Athro M. Wynn Thomas, sy’n ymddeol ar ôl arwain y Cyngor am 20 mlynedd.
Byddai Rona Aldrich yn parhau yn ei rôl fel Is-gadeirydd y Cyngor Llyfrau, rôl y mae wedi ei chyflawni ers 2015.
Ar ôl ei phenodi, dywedodd Linda Tomos: “Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio â’m cyd-ymddiriedolwyr a staff talentog y Cyngor Llyfrau i ddarparu strategaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gryfhau’r sector a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru.”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Linda ar gael ei phenodi i rôl y Cadeirydd. Rwyf i, a chyd-ymddiriedolwyr Linda, eisoes wedi elwa’n fawr o’i chyfraniad fel aelod o’r Bwrdd ers mis Ebrill 2021, ac o’i chefnogaeth i ddatblygu ein strategaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.”