Agor cwest yn achos marwolaeth dynes a fu'n padlfyrddio yng Nghonwy

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dynes 24 oed a fu farw wedi iddi fod yn padlfyrddio yng Nghonwy.
Bu farw Emma Louise Powell o ardal Llandudno ar 15 Gorffennaf wedi iddi fynd i drafferthion yn y dŵr ger Morfa Conwy.
Yn Neuadd y Sir yn Rhuthun ddydd Llun, cafodd y cwest ei ohirio wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu ei bod yn "ferch ifanc hyfryd, yn anturus gydag ysbryd rhydd.
"Fe fydd hi'n parhau yn ein calonnau am weddill ein bywydau."
Rhagor o fanylion yma
Llun teulu