Dyn yn gwadu llofruddio nain yn Sir Fôn

Mae dyn 52 oed wedi gwadu llofruddio dynes 48 oed a gafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ ar Ynys Môn, fis Ebrill.
Cafodd corff Buddug Jones, a oedd yn nain ei ddarganfod ym Maes Gwelfor, Rhydwyn, ar Ebrill 22.
Ymddangosodd Colin Milburn o Faes Gwelfor, Rhydwyn, yn y gwrandawiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug trwy gyfrwng cyswllt fideo o garchar y Berwyn yn Wrecsam.
Gorchmynodd y barnwr Rhys Rowlands iddo gael ei gadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerborn llys eto yn Llys Y Goron Caernarfon ar Hydref 17, 2022.
Darllenwch fwy yma