Newyddion S4C

'Dim amrywiaeth' yn y llyfrau sy’n cael eu hastudio ar gyrsiau Cymraeg

Newyddion S4C 25/07/2022

'Dim amrywiaeth' yn y llyfrau sy’n cael eu hastudio ar gyrsiau Cymraeg

Mae yna brinder o gynrychiolaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol ar gyrsiau Llenyddiaeth Gymraeg mewn ysgolion.

Dyna bryder rhai disgyblion sydd ddim yn gweld eu hunain wedi’u cynrychioli yn y testunau maen nhw’n hastudio.

Ar hyn o bryd mae yna dros 48 testun gosod ar gyrsiau Llenyddiaeth Gymraeg ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch. Mae unrhyw gyfeiriad amlwg at gymeriadau a themâu LHDTC+ yn brin.

Yn ôl Becky Richards, athrawes yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe,  mae’r diffyg amrywiaeth yn y Gymraeg yn bryder.

"Ma’ fe’n bwysig tu hwnt bod gyda nhw’r gynrychiolaeth lawn ‘na yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

"Wrth i nhw dyfu i fod yn bobl ifanc bod nhw’n dod i adnabod falle’ pwy ydyn nhw fel unigolion.

"Os nag oes ‘da ni’r cynrychiolaeth ‘na yn ein llyfrau Cymraeg ni neu yn ein ysgolion Cymraeg, efallai bydd hi’n fwy anodd i’r bobl ifanc yna i ddod i adnabod eu hun fel unigolion unigryw.”

'Dim lot o amrywiaeth' 

Mae Ms Richards wedi sefydlu llyfrgell sy’n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â phobl hoyw, deurywiol a thrawsryweddol – llyfrgell LHDTC+. Mae'n dweud bod canfod llyfrau addas yn y Gymraeg yn her.

I rai o’r disgyblion sy’n defnyddio’r llyfrgell, mae’r diffyg cynrychiolaeth yn rhwystredig.

“Dwi wedi rhoi cwpl o llyfrau fy hun i’r llyfrgell achos fi’n gwybod pa mor bwysig yw hi i blant ifanc yn enwedig gweld eu hun a chael eu cynrychioli tu fewn i’r llyfrau yma," meddai Rose, sydd ym mlwyddyn 12. 

Image
Rose ac Anna
Mae Rose ac Anna yn teimlo bod yna ddiffyg cynrychiolaeth o bobl LHDT+ ar gyrsiau

“Mae ‘na digon o bobl allan yna i ysgrifennu’r pethau ‘ma ond pam dydyn nhw’n cael eu cynnwys ar y cwricwlwm?” Ychwanegodd Anna, sydd hefyd yn y chweched dosbarth. 

“Ni’n astudio’r holl llyfre yma am popeth arall o cerddi amdano ffoaduriaid, yr Holocost, ond dim byd am fod yn hoyw neu LGBTQIA.”

Un gyfres boblogaidd o lyfrau ar gyfer pobl ifanc yw Y Pump, sy’n trafod amryw o themâu gan gynnwys trawsrywedd.

Mae un o awduron y gyfres, Leo Drayton yn galw am fwy o lyfrau tebyg.

“Pan o’n i yn yr ysgol roedd y llyfrau o’n i wedi astudio neu’r llyfrau roedd yr athrawon yn hybu ni i ddarllen o’n nhw gyd sort of am yr un cymeriadau a’r un straeon," meddai. 

"Oedd ‘na ddim lot o diversity a lliwiau gwahanol o bobl.

"Nes i AS Cymraeg oedd e’n anodd iawn i fi i deimlo’n gyffrous am yr hyn o’n i’n astudio achos o’n i ddim yn teimlo bod o’n siarad i fi”

Image
Leo Drayton
Yn ôl yr awdur Leo Drayton, mae angen mwy o gymeriadau LHDT+ mewn llyfrau 

Pennaeth Adran y Gymraeg Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo yw Noir Jones. Mae hi'n dweud bod dod o hyd i destunau yn her.  

“Y ddadl hanfodol fan hyn yw argaeledd y testunau," meddai. 

"Ydy’r testunau ar gael sydd yn cynnwys y pethau yna? Dyna’r peth allweddol. Gall CBAC ond cynnwys y pethau hyn os yw’r pethau hyn yn bod.

"Efallai bod e’n her i feirdd ac awduron cyfrwng Cymraeg i gyfansoddi ac ysgrifennu mwy am y pwnc hwn.”

Mae bwrdd arholi CBAC yn dweud y byddan nhw’n comisiynu darnau newydd o lenyddiaeth o fis Medi 2025, a fydd yn ymdrin â themâu eang, gan gynnwys testunau LHDTC+, fel rhan o’r cwrs TGAU newydd ym mhwnc Cymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.