Y DU i gynnal Eurovision 2023 yn lle Wcráin
Fe fydd cystadleuaeth ganu'r Eurovision yn dod i'r Deyrnas Unedig yn 2023 wedi i'r trefnwyr benderfynu peidio â'i chynnal yn Wcráin.
Yn draddodiadol, mae'r wlad sydd yn dod i'r brig yn ennill yr hawl i gynnal y gystadleuaeth y flwyddyn ganlynol.
Er i Kalsh Orchestra ennill y gystadleuaeth eleni yn Turin - a gyda'r nifer uchaf o bleidleisiau cyhoeddus - mae trefnwyr yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) yn dweud na fyddai'n ddiogel i gynnal y gystadleuaeth yn Wcráin yn sgil y rhyfel gyda Rwsia.
Yn hytrach, mae'r BBC wedi'i dewis i ddarlledu'r sioe yn 2023, ar ôl i'r Deyrnas Unedig ddod yn ail yn y gystadleuaeth eleni.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie, ei bod yn "fraint enfawr" i'r gorfforaeth gael ei dewis i gynnal Eurovision.
"Rydym yn ymrwymedig i gynnal sioe sydd yn adlewyrchu diwylliant Wcráin ochr yn ochr â'r amrywiaeth o gerddoriaeth a chreadigrwydd Prydeinig," meddai.
Bydd y BBC nawr yn dechrau ar y broses i ddewis dinas i gynnal y gystadleuaeth. Eisoes mae galwadau ar gyfryngau cymdeithasol ar i'r sioe ddod i Gymru, gyda Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn cael ei gynnig fel lleoliad delfrydol.