Newyddion S4C

Cofio sylwebydd oedd yn 'Arbenigwr y tu ôl i'r meicroffôn'

Golwg 360 25/07/2022
John Gwynne / PDC

Mae'r cyn sylwebydd dartiau a chriced, John Gwynne, wedi cael ei ddisgrifio fel 'gŵr hyfryd' ac 'arbenigwr y tu ôl i'r meicroffôn'.

Bu farw John yn 77 oed yn dilyn cyfnod o salwch, ac fe gafodd ei angladd ei gynnal yr wythnos ddiwethaf. 

Mae'r sylwebydd criced a ffrind i John, Edward Bevan, wedi bod yn rhannu atgofion amdano ar wefan Golwg 360, gan ei ddisgrifio fel "gŵr hyfryd a wnaeth rannu’r sylwebaeth gyda fi am flynyddoedd lawer."

Yn ôl Edward, roedd John yn ymfalchïo yn ei Gymreictod. 

"Byddai John wrth ei fodd ymhlith y dorf Gymreig yn dweud wrth bawb fod ganddo fe gyndeidiau o Gymru."

Ychwanegodd Edward fod John wrth sylwebu yn "arbenigwr y tu ôl i’r meicroffôn mewn cystadlaethau dartiau, gan fwynhau pob eiliad ac yn esbonio popeth yn fanwl i'w wylwyr a'i wrandawyr."

Darllenwch fwy yma

Llun: PDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.