Brexit: Posibilrwydd y gall rhai o wledydd Ewrop wrthod bathodynnau glas o Brydain

Mae yna rybudd i yrwyr anabl y gallai rhai o wledydd Ewrop wrthod derbyn bathodynnau glas o'r DU yn sgil Brexit.
Cyn i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, roedd bathodynnau glas o Brydain yn cael eu derbyn ar draws gwledydd Ewrop.
Bellach mae gweinidogion yn parhau i drafod gyda 11 wlad - gan gynnwys Sbaen, Yr Eidal a Ffrainc - er mwyn sicrhau bod y trefniadau blaenorol yn parhau.
Yn ôl yr AA, mae'r sefyllfa yn "hollol annerbyniol" wrth i yrwyr wynebu dirywion am ddefnyddio safleoedd parcio anabl dramor.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Open Grid Scheduler