Newyddion S4C

Newid mewn rheolau yn rhoi llai o amser i gwyno am ASau

25/07/2022
Siambr y Senedd.
Siambr y Senedd.

Mae newid yn y rheolau yn y Senedd yn golygu y bydd gan y cyhoedd lai o amser i wneud cwynion am ymddygiad Aelodau Seneddol ym Mae Caerdydd. 

Mewn adolygiad o'r rheolau, mae'r Pwyllgor Safonau wedi penderfynu haneri’r cyfnod pan gall cwynion gael eu gwneud o flwyddyn i chwe mis. 

Gall cwynion gael eu gwneud tu hwnt i'r cyfnod yma, ond dim ond os yw'r comisiynydd safonau yn derbyn bod rheswm dilys am yr oedi.  

Yn ôl Vikki Howells, yr AS ar gyfer Cwm Cynon a chadeirydd y pwyllgor safonau, mae'r newid wedi'i wneud fel bod "atgofion o ddigwyddiad dal yn ffres yn y meddwl a bod tystiolaeth ar gael yn hawdd".

Yn ogystal â hyn, ni fydd hawl gan ASau i apelio cwynion yn eu herbyn o dan y drefn newydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.