Ymgyrchwyr democratiaeth wedi'u dienyddio yn Myanmar

Mae pedwar ymgyrchydd o blaid democratiaeth wedi'u dienyddio gan awdurdodau milwrol ym Myanmar ar ôl cael eu cyhuddo o "droseddau terfysgol."
Mae'r fyddin wedi bod mewn grym yn y wlad yn ne ddwyrain Asia ers i luoedd oresgyn llywodraeth ddemocrataidd Aung San Suu Kyi fis Hydref y llynedd.
Cafodd y pedwar dyn - Kyaw Min Yu, Phyo Zeya Thaw, Hla Myo Aung a Aung Thura Zaw - eu dedfrydu i farwolaeth ym mis Ionawr ar ôl cael eu cyhuddo o gydweithio gyda milisia a oedd yn ymladd yn erbyn y fyddin.
Dyma'r tro cyntaf ers degawdau i ddienyddiad ddigwydd ym Myanmar gan godi beirniadaeth ryngwladol o'r llywodraeth filwrol.
Darllenwch fwy yma.