Newyddion S4C

Cyn-chwaraewyr rygbi yn lansio achos llys yn erbyn byrddau llywodraethu

The Guardian 25/07/2022
Ryan Jones

Mae bron i 200 o gyn-chwaraewyr rygbi wedi lansio achos llys yn erbyn Rygbi'r Byd, Undeb Rygbi Pêl-droed ac Undeb Rygbi Cymru wedi iddynt dderbyn diagnosis o niwed i'r ymennydd. 

Mae'r grŵp yn cynnwys tua 50 o gyn-chwaraewyr Cymru, gan gynnwys Ryan Jones ac Alix Popham. 

Fe wnaeth y cyn-gapten Jones, sydd yn 41, feirniadu byrddau llywodraethau rygbi yn chwyrn wrth ddatgelu ei ddiagnosis o ddementia am y tro cyntaf wythnos diwethaf. 

Mae wedi ymuno â 185 o chwaraewyr eraill sydd wedi derbyn diagnosis o gyflyrau fel dementia, CTE (chronic traumatic encephalopathy) a chyflwr motor niwron sydd yn erlyn y byrddau llywodraethu. 

Mae'r grŵp yn honni nad oedd y byrddau llywodraethau wedi amddiffyn chwaraewyr rhag anafiadau i'r ymennydd wrth i'r gamp droi yn broffesiynol ac na chafodd chwaraewyr eu haddysgu am y risgiau o gyflyrau iechyd hirdymor. 

Darllenwch fwy yma. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.