Gerwyn Price yn colli yn rownd derfynnol Matchplay y Byd

Gerwyn Price [PDC]
Mae Gerwyn Price wedi methu ennill Matchplay y Byd am y tro cyntaf yn ei yrfa wrth iddo golli i Michael van Gerwen yn y rownd derfynol.
Fe gollodd y chwaraewr o Goed Duon 14-18 yn erbyn van Gerwen yn y Winter Gardens yn Blackpool nos Sul.
Dyma oedd y trydydd tro i'r dyn o'r Iseldiroedd ennill Matchplay y Byd, gan ychwanegu at ei dlysau o 2015 a 2016.
Cafodd cystadleuaeth Matchplay y Byd ar gyfer menywod ei chynnal dros y penwythnos am y tro cyntaf erioed hefyd.
Daeth Fallon Sherrock yn fuddugol ymhlith y menywod, gan drechu Aileen De Graaf 6-3.
Darllenwch fwy yma.