Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Llanuwchllyn
24/07/2022
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Llanuwchllyn ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Seat Leon arian a beic modur BMW coch tua 14.45.
Bu farw dyn 43 oed o ganolbarth Cymru o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 22000530082.