Gweinidogion 'yn ymwybodol o broblemau'r Swyddfa Basbort flwyddyn yn ôl'

Mae dogfennau swyddogol yn dangos bod gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn ymwybodol o broblemau'r Swyddfa Basbort ers dros flwyddyn.
Methodd Teleperformance, cwmni rhyngwladol o Ffrainc, â chyrraedd targedau ar gyfer ymateb i alwadau ac e-byst mor gynnar â mis Mai 2021.
Cafodd ASau wybod ddydd Mercher diwethaf fod tua 50,000 o Brydeinwyr wedi bod yn aros mwy na 10 wythnos am eu pasbortau, gyda 550,000 o geisiadau yn y system ym mis Mehefin.
Yn ôl y Swyddfa Basbort prinder staff sydd wrth wraidd y broblem.
Dywedodd Teleperformance wrth The Guardian fod y sefyllfa wedi gwella'n sylweddol dros y mis diwethaf.
Darllewnch y stori'n llawn yma.