Anffawd Geraint Thomas yn cynnig cyfle annisgwyl i feiciwr o Wynedd

24/07/2022

Anffawd Geraint Thomas yn cynnig cyfle annisgwyl i feiciwr o Wynedd

Mae beiciwr ifanc o Wynedd wedi cael gwisgo siaced ei arwr, Geraint Thomas yn ystod ymweliad a Ffrainc i gefnogi’r Cymro yn y Tour de France.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C dywedodd Huw Owen fod y profiad yn un “bythgofiadwy.”

Fe aeth Huw a’i ffrindiau i gefnogi Geraint Thomas yn Ffraic dros y wythnosau diwethaf.

Dywedodd: “Mae Geraint Thomas yn arwr i fi, ac mae o wedi rhoi ysbrydoliaeth mawr i fi a beicwyr eraill yng Nghymru,

“Aetho ni yn 2018 hefyd a gweld Geraint Thomas, felly dwi’n dilyn o ers blynyddoedd.”

Mae Huw ymysg sawl cefnogwr sydd wedi cael y cyfle i wisgo 'gilet' Geraint Thomas eleni, ond mae hanes rhannu'r siaced ymysg cefnogwyr yn un sydd ychydig yn anffodus i Thomas.

Dechreuodd Geraint Thomas gymal cyntaf y Tour de France yn gwisgo'r gilet, ond roedd yn gamgymeriad drud iawn iddo.

Fe gollodd 18 eiliad i Tadej Pogačar yn y ras yn erbyn y cloc, gyda'r siaced yn ei arafu'n sylweddol.

Yn dilyn y cymal dywedodd: "Gallwn i fod wedi gwneud yn well. Ond mae rhaid ceisio bod yn bositif - mae’r coesau'n dda ac roeddwn i'n gynnes - efallai yr oedd pawb arall yn oer."

Gan droi anffawd yn gyfle, fe wnaeth Geraint Thomas ofyn i un cefnogwr y dydd wisgo'r gilet ar hyd taith y Tour drwy Ffrainc, gyda'r bwriad y byddai'n ei gyrraedd ym Mharis ar gyfer y cymal olaf o'r ras yn ddiweddarach dydd Sul.

Ychwanegodd Huw Owen: “Nath Geraint Thomas adael ei gilet ar i’r time trial cyntaf ac wedyn oedd hunan massive o mistake rili a nath o golli dipyn o amser.

“Er mwyn neud rwbath da o rwbath drwg nath o benderfynu rhoi'r gilet i ffans, ac oedd y ffan oedd yn cael o bob diwrnod yn gorfod pasio fo mlaen i’r ffan nesa. A dyna sut ges i'r gilet.

“Oedd na gannoedd o honna ni yna isio ei wisgo fo, felly gath lot o bobl gyfle i wisgo fo a thynnu llun. Yn amlwg doedd o ddim yn ffitio pawb, dydy pawb ddim mor denau a Geraint Thomas nadi.”

Ac fe ddangosodd Geraint Thomas ei werthfawrogiad i’r cefnogwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda llun o Huw yn ymddabngos ar gyfrif Instagram GeraintThomas.

“Y noson yna wedyn, nath Geraint Thomas rhoi llunia ar ei Instagram ac yn un o’r llunia i’n i yna gwisgo’r gilet. Ma' huna reit cŵl i ddeud gwir,” meddai.

Bydd y Tour de France yn gorffen ddydd Sul, a bydd y siaced yn cael ei gwerthu gyda’r arian yn mynd tuag at elusen ‘Geraint Thomas Cycling Trust’.

Image
S4C

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.