Newyddion S4C

Brech y mwncïod yn 'argyfwng iechyd byd-eang' medd Sefydliad Iechyd y Byd

23/07/2022
bRECH Y MWNCIOD

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod yr achosion o frech y mwncïod yn argyfwng iechyd byd-eang.

Dyma’r rhybudd uchaf y gall Sefydliad Iechyd y Byd ei gyhoeddi ac mae'n dilyn cynnydd byd-eang mewn achosion.

Mae mwy na 16,000 o achosion bellach wedi’u cofnodi o 75 o wledydd, meddai cyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus.

Ychwanegodd fod y risg yn fyd-eang yn “gymedrol”, ond ei fod yn "uchel" yn  Ewrop.

Dim ond dau argyfwng iechyd arall o'r fath sydd ar hyn o bryd - y pandemig Covid-19 a'r ymdrech barhaus i ddileu polio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.