Newyddion S4C

Ymchwiliad anhrefn y Capitol: Steve Bannon yn euog o ddirmyg

S4C

Mae cyn-ymgynghorydd gwleidyddol Donald Trump wedi ei gael yn euog o ddirmyg yn erbyn Cyngres yr UDA am beidio ymateb yn llawn i'r ymchwiliad i anhrefn y Capitol y llynedd.

Fe gafwyd Steve Bannon yn euog o ddirmyg ar ôl methu darparu gwybodaeth i ymchwiliad Ionawr y 6ed yn Washington.

Mae'r ymchwiliad hwnnw'n ceisio dod i wraidd yr hyn achosodd yn anhrefn angheuol ddigwyddodd yn adeilad y Capitol yn ystod seremoni urddo'r Arlywydd Joe Biden ym mis Ionawr 2021.

Mae Mr Bannon wedi bod yn ffigwr dadleuol a dylanwadol yng ngwleidyddiaeth yr UDA ac fe all wynebu cyfnod o garchar yn dilyn yr euogfarn.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.