Ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn cynnal cynhadledd yng Nghaernarfon
Ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn cynnal cynhadledd yng Nghaernarfon
Mae ymgyrchwyr wedi cynnal cynhadledd yng Nghaernarfon dydd Sadwrn fel protest yn erbyn agor rhagor o orsafoedd niwclear yng Nghymru.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU amlinellu cynlluniau ym mis Ebrill i ehangu gorsafoedd niwclear ym Mhrydain, gan gynnwys ail-ddatblygu safleoedd y Wylfa a Thrawsfynydd, fel rhan o'i strategaeth ynni newydd.
Roeddd ymgyrchwyr o wahanol fudiadau wedi cwrdd yn Llety Arall, Stryd y Plas i leisio eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau fel rhan o 'United Welsh Front Against Nuclear Power.’
Roedd ymgyrchwyr o CADNO (Cymdeithas Atal Dinistr Niwclear Oesol), Cymdeithas yr Iaith, PAWB (People Against Wylfa B) a nifer eraill wedi lleisio eu barn yn erbyn y datblygiadau.
Dywedodd Jill Evans o CND Cymru: Ma' ynni niwclear yn beryglus, mae'n llawer rhy ddrud, a dyw e ddim yn ateb i'r problemau sy'n wynebu ni o ran ynni neu o ran newid hinsawdd, a ma'r gwastraff yn para am ganrifoedd.
Yn ôl Robat Idris, “dydi niwclear ddim yn mynd i neud dim byd mewn amser ar gyfer newid hinsawdd, dydi o ddim yn garbon isel yn wahanol i be ma'r diwydiant yn ddeud wrtha ni.”
Yn ôl trefnwyr, pwrpas y gynhadledd oedd tynnu sylw i'r risgiau ariannol a gweithredol sy'n gysylltiedig ag ynni niwclear ac i hybu dulliau arall o ynni adnewyddadwy.
Mae Llywodraeth y DU yn honni bod ynni niwclear yn rhan hanfodol o'i gynlluniau i wella diogelwch egni Prydain yn sgil ansefydlogrwydd yn y farchnad ryngwladol.