Graddio o Hyd: Dafydd Iwan yn derbyn anrhydedd
Mae'r canwr Dafydd Iwan wedi ei anrhydeddu gyda gradd er anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd fel rhan o ddathliadau graddio'r brifysgol.
Cafodd trydedd seremoni raddio'r wythnos ei chynnal yn Stadiwm y Principality ddydd Gwener, wrth i brifysgol roi cyfle i’r myfyrwyr a fethodd gael seremonïau graddio gwreiddiol oherwydd y pandemig, ddathlu eu gwaith caled.
Daw’r anrhydedd ychydig fisoedd wedi i'r canwr, yn wreiddiol o Frynaman, dderbyn ymateb anhygoel gan gefnogwyr pêl-droed Cymru, yn sgil ei gân, Yma o Hyd.
Mae Yma o Hyd wedi dod yn dipyn o anthem i gefnogwyr Cymru a bu'n canu ochr yn ochr â Gareth Bale a gweddill y tîm ar ôl i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd.
Bellach mae'r canwr ac ymgyrchydd cenedlaetholgar brwd yn gymrodor er anrhydedd i Brifysgol Caerdydd.
Roedd yn ymuno â nifer o enwogion eraill sydd wedi'u hanrhydeddu'r wythnos hon, gyda'r hyfforddwr rygbi Warren Gatland, pêl-droediwr Jess Fishlock a chantores Cerys Mathews hefyd yn derbyn anrhydeddau.