Cymru yn Ewrop: Y Seintiau Newydd a'r Drenewydd yn colli
Fe wnaeth y Seintiau Newydd a'r Drenewydd golli yn erbyn eu gwrthwynebwyr yng nghystadleuaeth Cyngres Ewropa nos Iau.
Fe wnaeth y Seintiau Newydd golli o 2-0 yn erbyn Víkingur yng Ngwlad yr Iâ, ac fe wnaeth y Drenewydd golli o 4-1 yn erbyn Spartak Trnava yn Slofacia.
Roedd gan y Seintiau'r cyfle i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cyngres Ewropa drwy guro Víkingur, ond bydd gofyn iddyn nhw fod ar dop eu gêm yn yr ail gymal yn Neuadd y Parc nos Fawrth nesaf.
Fe fydd y Seintiau yn chwarae Lech Poznan o Wlad Pwyl neu Dinamo Batumi o Georgia os ydyn nhw'n cyrraedd y rownd nesaf.
Bydd hi'n her fawr i'r Drenewydd yn dilyn y golled drom o 4-1, gyda'r tîm o Slofacia yn sgorio tair gôl yn yr hanner cyntaf.
Roedd hi wastad yn mynd i fod yn gêm anodd i'r Drenewydd, gyda Spartak Trnava yn wrthwynebwyr cryf sydd wedi cyrraedd y rownd hon mewn naw allan o'r 12 tymor diwethaf.
Fe fydd y Robiniaid yn chwarae Rakó Częstochowa o Wlad Pwyl neu Astana o Kazakhstan os ydynt yn cyrraedd y rownd nesaf, gyda'r ail gymal yn cael ei chwarae nos Iau nesaf.
Llun: Asiantaeth Huw Evans