Newyddion S4C

Terfysg y Capitol: Trump 'wedi gwylio'r ymosodiad ar y teledu' yn lle ymyrryd

Sky News 22/07/2022
Donald Trump

Fe wnaeth Donald Trump wylio terfysg y Capitol ar y teledu yn hytrach nag ymyrryd, yn ôl ymchwiliad swyddogol yn yr UDA.

Dangosodd tystiolaeth i'r pwyllgor dethol fod cyn-arlywydd y wlad wedi methu â "gweithredu ar unwaith" yn ystod yr anhrefn ar 6 Ionawr 2021.

Clywodd y gwrandawiad mai bwriad Mr Trump oedd i geisio atal neu ohirio cydnabyddiaeth Joe Biden fel arlywydd newydd, a hynny trwy beidio ymyrryd yn yr ymosodiad ar adeilad y Capitol.

Fe wnaeth miloedd o'i gefnogwyr ymosod ar yr adeilad, ac fe fu farw pump o bobl yn ystod y digwyddiad. Cafodd 100 o swyddogion eu hanafu hefyd.

Dywedodd y gynghreswraig, Liz Cheney, bod "Trump wedi gwrthod gwneud yr hyn sy'n rhaid i bob arlywydd America ei wneud."

Mae Donald Trump wedi gwadu iddo wneud dim o'i le ar y diwrnod ym mi Ionawr.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.